top of page

Gweledigaeth

Mae Bro Ddyfi yn gymuned glos, ffyniannus, ofalgar, ddwyieithog ac all-blyg, sy’n cael ei chydnabod yn eang am fyw yn gynaliadwy​

  • Ein gweledigaeth gorfforaethol yw i ecodyfi fod yn effeithiol a grymus yn ariannol, gan chwarae rhan allweddol wrth i’r gymuned egnïol yma ddatblygu.

Mae ecodyfi yn fenter gymdeithasol annibynnol sy’n cefnogi adfywio cynaliadwy, cymunedol a hyrwyddo’r economi werdd sy'n tyfu ym Mro Ddyfi

  • Mae ecodyfi wedi ei leoli, ac yn gweithredu’n bennaf, ym Mro Ddyfi, ond mae’n dilyn diddordebau tu allan i’r ardal os ydynt yn gydnaws ȃ’n hamcanion ac nad ydynt yn rhoi pobl leol dan anfantais

Mae gweithio mewn partneriaeth, gan dynnu pobl at ei gilydd – fel gyda Biosffer Dyfi – yn bwysig iawn i’n ffordd o weithredu.

Amcanion

Mae gan ecodyfi dri amcan cydberthnasol gydag un cyn bwysiced a’r llall. Mae’r rhan fwyaf o’n prosiectau yn cynnwys agweddau o fwy nag un amcan:

  • Amgylcheddol

Cynnal yr amgylchedd naturiol a gwasanaethau lleol, ynghyd â dylanwadu ar werthoedd, agweddau ac ymddygiad bobl drwy addysgu, ysbrydoli a galluogi.

  • Economaidd

Cynyddu gwydnwch a chynaliadwyedd yr economi leol drwy gydweithredu ac entrepreneuriaeth, fel bod y sectorau pwysig lleol megis cynhyrchu ynni, bwyd a thwristiaeth gynaliadwy yn rhan o economi amrywiol, gytbwys;

  • Cymdeithasol-ddiwylliannol

Cynnal treftadaeth ddiwylliannol a gwead gymdeithasol Bro Ddyfi, cymell a galluogi lles cymunedol, nawr ac er mwyn cenedlaethau’r dyfodol.

Wind Farm Machynlleth
River Dyfi, Dyfi Biosphere
Cymerau Spring event
bottom of page