top of page

Blog/newyddion

Casglu hanesion llafar gan ffermwyr

Annwyl Olygydd,

 

Mae gan ecodyfi gyfle gwirfoddoli i unrhyw un sydd â diddordeb mewn casglu hanesion llafar gan ffermwyr o’r genhedlaeth hŷn yn ardal Biosffer Dyfi. Darperir cyfarpar a hyfforddiant gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru.

 

Fel rhan o’r prosiect ‘Ffermio Cymysg – hanesion a’r dyfodol’, rydym yn casglu atgofion gan y rheini sy’n cofio pryd y byddai amaethyddiaeth yn yr ardal yn fwy amrywiol: byddai cnydau âr yn gyffredin mewn rhai cymunedau mor ddiweddar â’r 1970au.

 

Cydariennir y prosiect gan Sefydliad y Teulu Ashley a thrwy raglen Cymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru - Rhaglen Datblygu Gwledig Cymru 2014-2020, a ariennir gan Lywodraeth Cymru a’r Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig.

 

Byddai gynnon ni ddiddordeb hefyd mewn clywed gan unrhyw ddarllenwyr o’r genhedlaeth hŷn sydd ag atgofion o beth a dyfid ac ymhle, sut a chan bwy. Ein nod yw cadw at y dyfodol yr hyn sydd, yn ein barn ni, yn wybodaeth werthfawr fel gallwn ni ac eraill ddysgu o brofiad ein cyndeidiau a neiniau.

 

Os oes gynnoch chi ddiddordeb mewn casglu hanesion llafar drwy gyfweld â phobl neu os ydych yn fodlon i’ch atgofion am arferion amaethyddol mwy amrywiol gael eu recordio, cysylltwch ag ecodyfi ar 01654 703965 neu drwy andy@ecodyfi.cymru.

 

Yn gywir,

Andy Rowland

Trefnydd

Y Plas

Machynlleth

SY20 8ER

bottom of page