
Dyfodol Dyfi - Cynllunio Dyfodol Mwy Disglair
Dod â chymunedau at ei gilydd ar hyd y Ddyfi; i gasglu anghenion, rhannu gwybodaeth, datblygu syniadau; i adeiladu dyfodol disglair.
Byddwn yn darganfod beth mae cymuned yn ei olygu i ni a byddwn yn dathlu'r hyn y mae ein cymunedau yn ei wneud yn dda.
Gyda'n gilydd rydym yn archwilio prosiectau datblygu'r gorffennol a'r presennol. Rydyn ni'n gofyn i chi beth rydych chi'n meddwl sydd ei angen arnoch chi, eich teulu, eich ffrindiau, eich cymuned. Byddwn yn casglu eich syniadau mewn Cynllun Cymunedol i gefnogi gweithredu cymunedol a cheisiadau am gyllid.

Ymunwch â'r sgwrs, e-bostiwch syniadau atom neu i drefnu sgwrs
Byddwn yn sicrhau bod y pynciau canlynol yn cael eu trafod ymhlith eraill;
-
Anghenion pobl iau;
-
Llesiant pobl,
-
Cyfleusterau cymunedol megis mannau cyfarfod;
-
Sgiliau a bywoliaethau.

Rhannwch eich syniadau ar ein tudalen facebook-
Byddwn yn tynnu ar ymarferion cymunedol blaenorol sy’n disgrifio anghenion sydd heb eu diwallu, yn enwedig:
Hoffem gyflawni rhywfaint o gynllunio dichonoldeb neu fusnes a chefnogi prosectiau cyfredol megis:
-
Defnydd gan y gymuned/busnes o safle Cyfoeth Naturiol Cymru yn Heulfryn, Esgairgeiliog;
-
Ardal berfformio yn y Plas;
-
Adeilad newydd ar gyfer Prosiect Plant Cymunedol Machynlleth;
-
Datblygu neuaddau/canolfannau pentref, gan gynnwys Cwmlline, Derwen-las ac Aberhosan a chynigion ar gyfer mannau cyfarfod lle nad oes neuadd ar gael, e.e. Penegoes, Darowen.
.jpg)
Illustration gan Formation Creative
Ein bwriad yw parhau i gydweithio ar ôl i’r prosiect ddod i ben, gan ddatblygu grŵp y prosiect i ffurfio rhwydwaith sy’n dwyn at ei gilydd gynrychiolwyr etholedig lleol ar draws yr ardal gynllunio, grwpiau cymunedol ac eraill. Bydd targedau ariannu ar gyfer cynigion yn y cynllun yn cynnwys y Gronfa Ffyniant Cyffredin arfaethedig, Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol a chyrff yn y sector cyhoeddus.
Ecodyfi sy’n gweithredu fel y ‘corff cyfrifol’ ar gyfer y rhwydwaith lleol esblygol o’r enw ‘Dyfodol Dyfi’ yn ystod cyfnod y prosiect, sef canol mis Mai hyd at 31 Hydref 2022, fel y gall yr ardal wneud cais am grant gan Gronfa Adfywio Cymunedol y DU drwy Gyngor Sir Powys a Chymdeithas Mudiadau Gwirfoddol Powys.

