top of page

Mae ecodyfi yn darparu gwasanaethau i gleientiaid yn y sector cyhoeddus a’r trydydd sector, yn ogystal â chynnal prosiectau â chymorth grantiau. Weithiau mae hyn yn cael ei wneud fel rhan o gonsortiwm gan dynnu ar rwydweithiau cryfion ecodyfi. Ymhlith ein cryfderau mae ein cysylltiadau â busnesau lleol a’r gymuned ehangach, sy’n golygu ein bod mewn sefyllfa dda i bontio rhwng academyddion a gwaith polisi. Mae ein gwybodaeth a phrofiad yn cynnwys ynni adnewyddadwy, effeithlonrwydd adnoddau, twristiaeth, hwyluso a chyfathrebu.

Enghreifftiau o gontractau

Prosiect ymchwil 4 blynedd oedd Gwe Arsyllfa’r Dinesydd a ariannwyd gan y Rhaglen EP 7 a ddaeth i ben ym mis Hydref 2016. Galluogodd ddinasyddion i gasglu data am yr amgylchedd gan ddefnyddio dyfeisiau symudol i’w defnyddio ar ôl hynny mewn ymchwil ac wrth wneud penderfyniadau a llunio polisi.

Bu COBWEB yn gweithio yng ngwarchodfeydd biosfferau a Biosffer Dyfi oedd y brif ardal ar gyfer profi’r datrysiadau meddalwedd a ddatblygwyd. Bu ecodyfi yn cefnogi pobl leol a sefydliadau i fonitro cynefinoedd a dysgu am y Biosffer, yn ogystal â chynghori ynglŷn â’r ardal a darparu mynediad i rwydweithiau lleol. Roedd hyn yn galluogi mabwysiadu proses gydgynllunio ar gyfer y gwaith peilot a wnaed gan wirfoddolwyr a staff o sefydliadau cyfranogol. Ecodyfi oedd un o 13 o bartneriaid Ewropeaidd. Roedd y consortiwm yn cynnwys Llywodraeth Cymru, busnesau a phrifysgolion. Fe’n contractiwyd gan Brifysgol Caeredin.

cymerau.org.uk

Bu prosiect Cymerau yn ymgysylltu â phobl yn y Borth, Tal-y-bont a’r cyffiniau mewn trafodaethau ynglŷn â dŵr, i ysgogi ystyriaeth o’n cysylltiadau â dŵr a’n dibyniaeth arno a sut mae hynny’n effeithio ar y gymuned. Ariannwyd y prosiect ymchwil weithredu gan Gyngor Ymchwil y Celfyddydau a’r Dyniaethau a chontractiwyd ecodyfi gan brifysgolion – Aberystwyth yn y lle cyntaf ac ar ôl hynny Sba Caerfaddon. Comisiynwyd nifer o artistiaid i weithio gyda chymunedau, yn bennaf rhwng mis Medi 2015 a mis Awst 2016. Bu ecodyfi yn trefnu rhai o’r digwyddiadau gan arwain yr ymgysylltu cymunedol, cyfathrebu a chysylltu â pholisi a mentrau eraill.

Gwasanaeth gan Lywodraeth Cymru oedd hwn yn darparu man cyswllt unigol i bobl (domestig, busnesau, cyrff gwirfoddol a chyhoeddus) i gael cymorth i ddefnyddio adnoddau (ynni, deunyddiau a dŵr) yn fwy effeithlon. Roedd ecodyfi yn rhan o gonsortiwm dan arweiniad Asiantaeth Ynni Hafren Gwy a gefnogodd ddeiliaid tai a grwpiau cymunedol, er enghraifft, rheolwyr neuaddau pentref. Buom yn gweithio yng Ngheredigion, Sir Benfro a de Gwynedd a daeth y rhaglen i ben ym mis Hydref 2017.

Sefydlwyd Adfywio Cymru gyda chymorth y Gronfa Loteri Fawr i helpu grwpiau cymunedol i fynd i’r afael ag achosion ac effeithiau newid yn yr hinsawdd drwy gyngor, hyfforddiant, mentora a chymorth technegol gan ymarferwyr profiadol eraill yn y gymuned. Mae ecodyfi yn cael ei gontractio i gydlynu’r gefnogaeth yma yng nghanolbarth Cymru ac i weithredu fel mentor lle bo’n briodol. 

bottom of page