top of page

Ein prosiectau

Yn 2017 sefydlodd ecodyfi Gaffi Trwsio yn y gymuned leol i bobl ddod â’u teclynnau sydd wedi torri fel gliniaduron, ffonau a thostwyr i gael eu trwsio gan wirfoddolwyr. Fe’i cynhelir yn rheolaidd ym Machynlleth.

Drwy hybu atgyweiriadau, gallwn leihau mynyddoedd o wastraff, arbed arian ac adnoddau a lleihau allyriadau CO2.

Tyfu Dyfi

Mae Prosiect Tyfu Dyfi yn brosiect a ariennir gan Grant Ewropeaidd a fydd yn rhedeg tan 30ain Mehefin, 2023. Y sefydliadau partner yw: ecodyfi (arweiniol), Bwyd dros ben Aber, Mach Maethlon, Canolfan Technoleg Amgen, Prifysgol Aberystwyth, Fforwm Cymunedol Penparcau, Garden Organic.

 

    Cliciwch ar y ddolen yma i ddarganfod mwy.

Prosiect Cymunedol Dyfodol Dyfi

 

Bwriad prosiect ‘Dyfodol Dyfi' yw dod â phobl a sefydliadau at ei gilydd i gyd-greu cynllun cymunedol.

Y syniad yw gweithio gyda phartneriaid, i helpu i ddatblygu cynigion prosiect o syniadau allweddol a dod â rhai tymor byr i ddwyn ffrwyth.

 

Lawr lwytho Crynodeb y prosiect

Ynni Lleol

Ffordd newydd o gydweithio yw Ynni Lleol sy’n galluogi cymunedau lleol i gyfuno’r cynhyrchiant trydan sy’n perthyn i’r gymuned, ac i reoli’r galw lleol am drydan i leihau biliau ac allyriadau carbon. Cred Ynni Lleol y dylai cymunedau allu elwa o ddefnyddio trydan ar yr adegau rhataf o’r dydd a chyfatebu eu defnydd i ynni a gynhyrchir yn lleol. Mae’r porth yn dweud mwy wrthych am y clybiau Ynni Lleol sy’n weithredol neu sy’n cael eu sefydlu. Cewch gofrestru eich diddordeb a chael gwybod am y datblygiadau diweddaraf. Mae ecodyfi’n helpu cychwyn clwb o’r fath i wasanaethu ardal Eglwysfach/Machynlleth/Pennal/Corris.

Prosiect Trywydd Iach |Outdoor Health

Mae Ecodyfi a Coed Lleol (Small Woods Wales) wedi ffurfio partneriaeth i gynorthwyo ein cymuned i fod yn weithgar yn yr awyr agored ym Miosffer Dyfi. Rydym yn cynnal gweithgareddau awyr agored am ddim i bawb sydd am wella eu hiechyd a'u lles, ac rydym yn gweithio i gynyddu mynediad i'r amgylchedd naturiol i bawb.

Tail Gwyrdd Lluosflwydd /   Gwrtaith Gwyrdd Lluosflwydd

Mae gwrtaith gwyrdd lluosflwydd yn wrtaith a wneir o ddeunydd planhigion a dyfir mewn coedlannau prysgwydd a phlanhigfeydd lluosflwydd bioamrywiol. Yn debyg iawn i'r meillion a'r ffacbys sy'n rhoi hwb i ffrwythlondeb ac a ddefnyddir gan ffermwyr ers cryn amser bellach, mae coed a llwyni sy'n sefydlogi nitrogen, megis gwern ac eithin, yn gweithio gyda'r bacteria yn y pridd i drosi nitrogen yn ffurf sy'n ddefnyddiol i blanhigion. Bydd y prosiect yn dechrau yn haf 2022. Bydd Ecodyfi yn dod i adnabod ffermwyr a thyfwyr sydd am ddefnyddio gwrtaith gwyrdd lluosflwydd i ffrwythloni eu cnydau eu hunain, a bydd yn creu treialon pwrpasol gyda nhw.

bottom of page