top of page

Prosiect 4 blynedd oedd Gwe Arsyllfa’r Dinesydd (COBWEB) a ariannwyd gan Raglen FP 7 yr UE a ddaeth i ben ym mis Hydref 2017. Bu 13 o bartneriaid Ewropeaidd yn cymryd rhan, gan alluogi dinasyddion i gasglu data amgylcheddol drwy ddefnyddio dyfeisiau symudol. Byddai’r data wedyn yn addas i’w defnyddio mewn ymchwil, wrth wneud penderfyniadau a llunio polisi.

Mae COBWEB yn dibynnu ar wyddoniaeth y dinesydd ac yn canolbwyntio ar Warchodfeydd Biosfferau, gan gynnwys Biosffer Dyf. Cefnogodd ecodyfi bobl leol a sefydliadau i fonitro cynefinoedd a dysgu am y Biosffer yn ogystal â rhoi cyngor ynglŷn â’r ardal a hybu mynediad i rwydweithiau lleol.

cymerau.org.uk

Nod y prosiect Cymerau oedd cael cymunedau yn y Borth, Tal-y-bont a’r cylch i ymgysylltu mewn trafodaethau am ddŵr. Comisiynwyd nifer o artistiaid wedi’u hariannu gan Gyngor Ymchwil y Celfyddydau a’r Dyniaethau i gydweithio â chymunedau dros gyfnod o ddeuddeg mis, o fis Medi 2015 tan fis Awst 2016. Mae Map Dŵr digidol wedi cael ei greu i adlewyrchu’r holl straeon lleol a ddaeth i law drwy’r broses hon. Ecodyfi a arweiniodd yr ymgysylltiad cymunedol gan chwarae rôl wrth gyfathrebu a chysylltu â mentrau eraill.

Nod Prosiect Ôl Troed Dyfi oedd helpu trigolion Dyffryn Dyfi i leihau eu heffaith ar y blaned ac i amcangyfrif a monitro ôl troed y gymuned. 

Partneriaeth oedd hon rhwng ecodyfi a Chanolfan y Dechnoleg Amgen yng nghyd-destun proses Biosffer Dyfi y Cenhedloedd Unedig.

Astudiaeth Llwybr Glyndŵr 

Nod y prosiect oedd datblygu potensial Llwybr Cenedlaethol Glyndŵr, drwy adnabod a chodi ymwybyddiaeth o’r gwahanol asedau, fel llety, siopau, lleoedd i fwyta ac adnoddau treftadaeth a hamdden megis adeiladau rhestredig, llwybrau beicio a cherdded yn ogystal â theithiau cyhoeddedig.   

Bu ecodyfi yn rheoli’r prosiect gyda Rhwydwaith Cyrchfan Canol a Gogledd Powys er mwyn helpu busnesau lleol i ymgysylltu’n fwy â thwristiaeth gerdded fel cynnyrch ac i ehangu’r sector hwnnw. 

Tirwedd Dyfi

Prosiect a fu’n ystyried ac yn dathlu’r cysylltiadau rhwng iaith, diwylliant, tirwedd a natur Cymru ym Miosffer Dyfi.

Ymhlith y digwyddiadau roedd talwrn y beirdd gyda’r nos, prosiect gydag ysgolion lleol a chystadleuaeth.

Ariannwyd y prosiect gan y Cyngor Defnyddwyr Dŵr a Chronfa Arbrofol Eryri Awdurdod Parc Cenedlaethol  Eryri.

Gwres

Gwres oedd y prosiect cyntaf i ecodyfi ei gynnal yn enw Biosffer Dyfi, ar ôl sicrhau cymorth grant gan Lywodraeth y DU. Gwnaethom gyhoeddi cyfle i ddeiliaid tai gael grant i osod gwres o ffynonellau adnewyddadwy, fel mabwysiadwyr cynnar y Cymhelliant Gwres Adnewyddadwy.

Mentro Allan

Prosiect a ariannwyd dros bum mlynedd gan y Loteri Fawr oedd rhaglen Mentro Allan ac a gefnogwyd gan rwydwaith amrywiol o bartneriaid lleol a chenedlaethol gyda’r nod o annog ystod o grwpiau anweithgar i ddod yn fwy egnïol; trefnodd ecodyfi amrywiaeth o weithgareddau am ddim ym Mro Ddyfi yn delio â thema arwahanrwydd yng nghefn gwlad.

Chwedlau’r Biosffer

Bwriad y prosiect oedd hybu rhesymau dros ymweld â Biosffer Dyfi yn seiliedig ar nodweddion diwylliannol unigryw’r ardal, yn enwedig chwedlau, straeon a chymeriadau, er mwyn manteisio ar Flwyddyn y Chwedlau yn 2017. Contractiwyd artistiaid lleol gan ecodyfi i adnabod straeon a chwedlau allweddol sy’n atgyfnerthu ymdeimlad â lle ac fe ddaethont yn fyw drwy ddigwyddiadau cyfranogol. Ariannwyd hyn drwy grant TPIF Croeso Cymru.

Ffermio cymysg - Prosiect hanesion a'r dyfodol

Prif fwriad prosiect ‘Ffermio cymysg – hanesion a’r dyfodol’ a ariennir gan LEADER yw dangos bod ffermio cymysg - tyfu cnydau yn ogystal â magu da byw - yn fwy cyffredin o lawer yng Nghymru yn hanesyddol nag y mae erbyn hyn. Mae’r prosiect yma’n anelu at wneud achos dros gefnogi amaethyddiaeth gymysg gynaliadwy ac economi cynhyrchu bwyd yn lleol sy’n fwy cydnerth. Sail y prosiect yw’r gydnabyddiaeth mai ffermydd teuluol bach yw conglfaen economi, diwylliant a thirwedd cefn gwlad Cymru ddoe, heddiw ac yn y dyfodol. 

Am fwy o wybodaeth cysylltwch ag: andy@ecodyfi.cymru neu 01654 703965

 Cymunedau Cynaliadwy Cymru

Mae Cymunedau Cynaliadwy Cymru (CCC) yn rhaglen o gefnogaeth a chyngor rhad ac am ddim sydd ar gael i gymunedau ledled Cymru, yng nghymunedau gwledig a threfol fel ei gilydd, i’w helpu i wella effeithlonrwydd ynni’r adeiladau y maen nhw’n eu cadw. Ariannir y cymorth a ddarperir gan CCC gan Raglen Datblygu Gwledig Llywodraeth Cymru, ac fe’i cyflawnir gan gydgwmni o arbenigwyr  effeithlonrwydd ynni di-elw tan arweiniad Asiantaeth Ynni Severn Wye.

Gwasanaeth Ynni Llywodraeth Cymru

Gwasanaeth cefnogi ynni adnewyddadwy Llywodraeth Cymru yw Ynni Lleol sy’n darparu cymorth ariannol a thechnegol ar draws Cymru i ddatblygu cynlluniau ynni adnewyddadwy cymunedol. Ecodyfi yw’r man cyswllt i Geredigion, gogledd Powys a de Gwynedd, ar gontract i’r Ymddiriedolaeth Arbed Ynni.

Adfywio Cymru

Mae Adfywio Cymru’n helpu grwpiau cymunedol i fynd i’r afael ag achosion ac effeithiau newid yn yr hinsawdd drwy gyngor, hyfforddiant, mentora a chymorth technegol gan ymarferwyr cymunedol profiadol eraill. Ecodyfi yw’r man cyswllt i ogledd Ceredigion, gogledd Powys a de Gwynedd, ar gontract i Gymdeithas Ymddiriedolaethau Datblygu Cymru.

Arwyddion ffyrdd y Biosffer

Mae Croeso Cymru Llywodraeth Cymru wedi cytuno i ariannu’r rhan fwyaf o gost codi arwyddion pwrpasol ar briffyrdd wrth fynedfeydd allweddol i Fiosffer Dyfi. Ymhlith y cyd-gyllidwyr mae Cymdeithas Twristiaeth Biosffer Dyfi, Pwyllgor Atyniadau a Hysbysebu Aberdyfi a Chyngor Sir Powys.

bottom of page