top of page

Gweithredu dros yr Hinsawdd

Ychydig cyn Nadolig 2018 cyhoeddodd Cyngor Tref Machynlleth fel y cyngor cyntaf yng Nghymru 'Argyfwng Hinsawdd’. Ers hynny mae Cynghorau Tref Aberystwyth, Tywyn, Llanbedr Pont Steffan, Llanidloes a’r Drenewydd wedi dilyn ei esiampl ac mae hefyd wedi ysbrydoli Cyngor Sir Powys i weithredu.

Felly, beth mae hyn yn ei olygu? Mae’n cydnabod fod y bygythiad o newid hinsawdd mor ddifrifol fel bo’n rhaid ymdrechu i newid pethau mor fuan ag sydd yn bosib. Mae hefyd yn nodi cychwyn y weithred o wahodd unrhyw un lleol sydd ȃ diddordeb i fod yn rhan o’r penderfyniadau ynglŷn ȃ sut i weithredu a beth sy’n bosib. Mae croeso i unrhwy un yn ardal Bro Ddyfi i gyfranogi.

Machynlleth

Fe wnaeth Cyngor Tref Machynlleth benderfynu lansio ymgynghoriad cynhwysol i ddatblygu cynllun gweithredu dros y 6 mis nesaf i:

  • sicrhau bod Machynlleth yn ddi-garbon net cyn gynted ag y bo modd;

  • cynyddu cydnerthedd lleol rhag effeithiau’r hinsawdd;

  • sicrhau’r buddion lleol gorau yn sgil y camau hyn mewn sectorau eraill fel iechyd, amaethyddiaeth, trafnidiaeth a’r economi.

 

Cytunwyd hefyd:

  • I alw ar Lywodraethau Cymru a’r DU i ddarparu’r gefnogaeth a’r adnoddau i wneud hyn yn bosibl;

  • Cydweithio ag ardaloedd lleol eraill, yn arbennig y cynghorau cymuned a phartneriaid eraill ym Miosffer Dyfi;

  • Adrodd o fewn chwe mis am y camau gweithredu y gall y dref eu cymryd i fynd i’r afael â’r argyfwng hwn, er enghraifft cynyddu effeithlonrwydd ynni’r Plas, neu weithio gyda pholisi prynu’r dref;

  • Trafod gydag Adfywio Cymru sut gallent gefnogi’r broses hon.

Arweiniodd cyfarfod agored ym mis Chwefror 2019 at sefydlu deg grŵp: 1) grŵp llywio i oruchwylio’r broses;  2) grŵp ymgysylltu; a’r grwpiau pwnc canlynol - 3) ynni mewn adeiladau, 4) trafnidiaeth, 5) gwastraff, 6) bwyd, 7) bioamrywiaeth, 8) llesiant, 9) cynllunio a datblygu economaidd, 10) cyflenwi ynni.

 

Yn ystod y 6 mis diwethaf cafwyd cyfanswm o fwy na 50 o gyfarfodydd gweithgorau. Ym mhrif gorff yr adroddiad/cynllun interim a ddarparwyd i Gyngor y Dref 24 Gorffennaf 2019 ceir crynodeb o weithgarwch a chynlluniau gweithredu cychwynnol pob gweithgor.

 

Y prif gam nesaf yw cael y gymuned gyfan i roi eu barn ar y syniadau sydd wedi’u rhoi gerbron hyd yn hyn – beth yn eu tyb nhw y gallent elwa arno, cyfrannu iddo neu yr hoffent ei weld yn digwydd.

Lawrlwythwch yr adroddiad llawn yma: Climate Action Report July 2019 (Saesneg yn unig)

Am fwy o wybodaeth cysylltwch â;

Cyngor Tref Machynlleth

Mr Jim Griffiths.

Ffȏn: 01654 702571. E-bost: town-clerk@machynlleth-tc.gov.uk

Gwefan: https://powys.moderngov.co.uk/uuCoverPage.aspx?bcr=1

Machynlleth yn Gweithredu o ran yr Hinsawdd

E-bost: hinsawddmachynlleth@gmail.com

 

Gwrthryfel Difodiant Machynlleth

E-bost: info@xr-machynlleth.org

Gwefan: https://www.facebook.com/XRMachynlleth/

Gwrthryfel Difodiant Ieuenctid Machynlleth

E-bost: xryouthmachynlleth@gmail.com

Website: https://www.facebook.com/Extinction-Rebellion-Youth-Machynlleth-333445720909152/


I archebu camera thermol neu efeic, ewch i'r dudalen gweithredu hinsawdd hon ar wefan ecodyfi.

Aberystwyth

I gael gwybodaeth am weithredu yn yr hinsawdd yn ardal Aberystwyth a sut y gallwch chi gymryd rhan, cysylltwch â;

Cyngor Tref Aberystwyth

Ms Gwyneira Raw-Rees.

Ffȏn: (01970) 624761. E-bost: admin@aberystwyth.gov.uk / council@aberystwyth.gov.uk

Gwefan: www.aberystwyth.gov.uk

Gwrthryfel Difodiant Aberystwyth

E-bost: xraberystwyth@gmail.com

Gwefan: https://www.facebook.com/groups/256267055070117/

Ymarfer y Bobol Aberystwyth

E-bost: Alice.Briggs@ceredigion.gov.uk

Tywyn

I ddarganfod mwy am yr hyn sy'n digwydd yn Nhywyn, cysylltwch â;

Cyngor Tref Tywyn

Francesca Pridding.

Ffȏn: 01654 712411. E-bost: tywyntowncouncil@btconnect.com

Gwefan: http://tywyntowncouncil.wales/en/index.php

Tywyn Gwyrdd

E-bost: info@greenertywyn.co.uk

Gwefan: https://greenertywyn.co.uk/

Gwybodaeth Gyffredinol

I gael mwy o wybodaeth am newid hinsawdd yn lleol, yn genedlaethol ac yn fyd-eang ewch i;

https://climateemergency.uk/

https://www.renewwales.org.uk/cymraeg/

https://www.cat.org.uk/category/climate-change/

bottom of page