
Cydweithio gydag eraill
Mae Cymorth y Galon, Meddwl, Corff yn brosiect a arweinir gan y gymuned a gefnogir gan Coed Lleol (Small Woods Wales) ac ecodyfi, mewn cydweithrediad â Trywydd Iach / Outdoor Health. Yn yr amser hwn o argyfwng, ei nod yw helpu, estyn allan a gwella lles.
Mae'r prosiect yn cynnig sesiynau byw ar-lein am ddim gyda hwyluswyr cymunedol a phroffesiynol lleol i gefnogi pobl gartref yn ystod y cyfnod clo. Ymhlith y sesiynau mae ioga, cysylltiad â natur, ffitrwydd, dawns, myfyrio, rhannu, chi gong, canu, celf a mwy.
I ddarganfod sut i ymuno â'r sesiynau, ewch i'w tudalen we neu dudalen Facebook.
Os gallwch chi roi rhodd i gefnogi'r prosiect, cliciwch ar y botwm isod i gyfrannu trwy Paypal.
Windfall
Mae Windfall yn casglu cyfran o’r refeniw o gynhyrchu ynni yng nghanolbarth Cymru gan ei hailddosbarthu ymysg cymunedau lleol. Cynigir yr arian yma ar ffurf grantiau ar gyfer prosiectau effeithlonrwydd ynni ac ynni adnewyddadwy i gymunedau, deiliaid tai, ffermwyr, ysgolion a busnesau ar draws canolbarth Cymru. Ychwanegir at yr incwm sylfaenol drwy gyllid cyfatebol o ffynonellau’r DU a’r UE i gael cymaint ag sy’n bosibl o gapasiti ariannol y cynllun.

Ardal a ddynodir gan UNESCO yw Biosffer Dyfi sy’n cyflawni nodau cadwraeth, addysg a datblygu. Mae gwarchodfeydd biosffer yn ymchwilio’n lleol i sut gellir seilio bywoliaethau cynaliadwy, diwylliannau bywiog ac economïau cadarn ar amgylcheddau iach.
Nid oes gan Fiosffer Dyfi ei hun unrhyw staff; mae ecodyfi yn cefnogi Partneriaeth Biosffer Dyfi fel ysgrifenyddiaeth. Ni hefyd yw’r prif fan cyswllt i’r Biosffer.
Cronfa Ynni Gymunedol Dyfi
Nod y Gronfa yw lleihau allyriadau carbon yn Nyffryn Dyfi, ymgodymu â newid yn yr hinsawdd a gwella cydnerthedd.
Bwriad y Gronfa yw bod o fudd i Fro Ddyfi ac mae’n deillio o’r elw o ddau dyrbin gwynt a berchenogir gan y gymuned ger Machynlleth.
Mae ecodyfi yn ymwneud â cheisiadau grant a marchnata ac mae hefyd yn derbyn ei gyllid ei hun i gefnogi prosiectau cymunedol yn yr ardal fel Caffi Trwsio Machynlleth a Caru Gwenyn Machynlleth.
Ymddiriedolaeth Tir Cymunedol

Nod yr Ymddiriedolaeth Tir Cymunedol yw darparu tai fforddiadwy a chynaliadwy a buddion cymunedol eraill i bobl Machynlleth a Dyffryn Dyfi.
Mae’r gallu ganddi i gaffael a dal tir ac eiddo er ffyniant hirdymor Bro Ddyfi.
Mae’n helpu pobl leol i adeiladu cymuned ffyniannus a chynhwysol drwy stiwardiaeth a pherchenogaeth tir ddemocrataidd.
Nid oes unrhyw brosiectau nac asedau ar hyn o bryd. Ecodyfi sy’n gweinyddu’r Ymddiriedolaeth ar y funud.