
Mae Ecodyfi a Coed Lleol (Small Woods Wales) wedi ffurfio partneriaeth i gynorthwyo ein cymuned i fod yn weithgar yn yr awyr agored ym Miosffer Dyfi. Rydym yn cynnal gweithgareddau awyr agored am ddim i bawb sydd am wella eu hiechyd a'u lles, ac rydym yn gweithio i gynyddu mynediad i'r amgylchedd naturiol i bawb.
​Dewiswch un o'r opsiynau isod i ganfod mwy ac i ymwneud a phrosiect Trywydd Iach.

Gweithgareddau Awyr Agored
Gall treulio mwy o amser yn yr awyr agored ym myd natur wella eich iechyd meddwl a chorfforol. Rydym yn cynnig ac yn gallu eich cysylltu â gweithgareddau awyr agored am ddim dan arweiniad proffesiynol yn agos atoch chi, fel:
​
-
Cadwraeth a chrefftau coetir
-
Rheoli cynefinoedd
-
Teithiau cerdded grŵp
-
Sesiynau garddio
-
Treulio amser gydag anifeiliaid

Os hoffech chi gymryd rhan mewn gweithgareddau awyr agored am ddim i wella'ch iechyd a'ch lles, cliciwch y botwm isod i gofrestru gyda ni. Yna bydd y Swyddog Prosiect Sian Davies mewn cysylltiad i drafod beth allai fod yn addas i chi ac i'ch cysylltu â'r hyn sy'n digwydd yn agos i'ch cartref.
Bydd ein sefydliad partner, Coed Lleol (Small Woods Wales),
yn prosesu a chadw eich manylion yn ddiogel.
Ydych chi'n gweithio i sefydliad iechyd a lles yn ardal Biosffer Dyfi?
Hoffech chi atgyfeirio un o'ch cleifion neu ddefnyddwyr gwasanaeth i'n gweithgareddau awyr agored? Cliciwch ar y botwm isod i fynd i'n ffurflen atgyfeirio ar-lein.
Bydd ein sefydliad partner, Coed Lleol (Small Woods Wales),
yn prosesu a chadw eich manylion yn ddiogel.
Teithio Heini
Mae gan Biosffer Dyfi amgylchedd naturiol hardd ac unigryw. Rydym am sicrhau bod pawb yn gallu ei gyrchu.
​
Rydym yn gweithio gyda sefydliadau a grwpiau lleol eraill i wella mwy o gyfleoedd i bobl gerdded, rhedeg, beicio a hyd yn oed reidio ceffylau, ac rydym wrth ein bodd yn clywed gennych am yr hyn a fyddai'n eich helpu i wneud hynny. Cysylltwch â'r Swyddog Prosiect Miriam Davies i gymryd rhan

Cofid-19
Oherwydd cyfyngiadau pandemig coronafirws, mae yna adegau pan na allwn redeg ein gweithgareddau awyr agored ar gyfer iechyd a lles. Cysylltwch â ni i wirio a yw gweithgaredd yn rhedeg a dilynwch ni ar gyfryngau cymdeithasol i gael y wybodaeth ddiweddaraf.
Rydym yn deall y gall yr amseroedd hyn fod yr adeg pan fydd angen y gefnogaeth fwyaf arnoch, ac awgrymwn eich bod yn ystyried ymuno yn y gweithgareddau ar-lein isod.
​
Mae Calon Meddwl Corff yn brosiect a arweinir gan y gymuned y mae Coed Lleol (Small Woods Wales) ac Ecodyfi yn ei gefnogi, mewn cysylltiad â Trywydd Iach. Ei nod yw helpu, estyn allan a gwella lles yn yr amseroedd digynsail hyn.
Cliciwch y botwm isod i fynd i'w hamserlen o sesiynau ar-lein, fel ioga ac ysgrifennu creadigol.
​
​
​
​
​
Mae Coed Lleol (Small Woods Wales) yn cynnig rhaglen o sesiynau natur ar-lein, sy'n agored i unrhyw un yng Nghymru. Cliciwch isod i ddarganfod mwy.
​
​
​

Adroddiad Gwerthuso Blwyddyn 1
Mae’r Adroddiad Gwerthuso (sydd yn Saesneg) yn disgrifio canlyniadau hanner cyntaf prosiect Trywydd Iach ym Miosffer Dyfi. Mae rhan un yn ymdrin ag allbynnau a chanlyniadau’r llinyn gweithgaredd ‘Presgripsiynu cymdeithasol i iechyd awyr agored’ ac mae rhan dau yn archwilio cyflawniadau allweddol y llinyn ‘Teithio Iach’ (cerdded a beicio). Mae’r prosiect yn parhau tan ddiwedd 2022.”
​
Pwy yw Tîm Trywydd Iach?
Mae tîm Trywydd Iach yn gweithio'n rhan-amser a byddant yn ymateb i ymholiadau cyn gynted â phosibl. Rydym yn gweithio o bell yn ystod y pandemig coronafirws ac ar gael trwy e-bost.

Mona Lewis
Swyddog
Datblygu Cerdded a Beicio.
(Rhannu swydd gyda Sian Davies)
​
Mae Mona'n gweithio'n hyblyg yn rhan amser.
​
​
01654 703965

Sian Davies
Swyddog Prosiect
Trywydd Iach
(Rhannu swydd gyda Mona Lewis)
Arweinydd Rhagnodi Cymdeithasol
​
Dyddiau Llun, Mawrth (pnawn) a Iau
07546 909050
Dilynwch Trywydd Iach ar y cyfryngau cymdeithasol i gadw mewn cysylltiad
Mae Ecodyfi yn gwerthfawrogi cefnogaeth y cyllidwyr canlynol i Trywydd Iach:




