top of page

Hanes ecodyfi

Mae ecodyfi yn gorff trydydd sector dan reolaeth leol gyda’i bencadlys yn Y Plas, Machynlleth                   Datblygwyd ecodyfi yn ystod 1997; fe’i sefydlwyd ym 1998 ac yna fe’i ymgorfforwyd ym 1999. Unigolion o Gyngor Sir Powys a Chwmni Dulas Cyf oedd yn gyfrifol am hynny.

I gychwyn roedd yn sefydliad o'r brig i lawr, ond yn raddol symudwyd y pwysau wrth i’r aelodau lleol o’r Bwrdd gymryd rheolaeth. Sefydlogwyd y drefn yma yn dilyn ymgynghoriad cymunedol yn 2002. Tra bod yr enw cyfreithiol ‘Partneriaeth Eco Dyffryn Dyfi’ yn parhau, nid oes gan y partneriaid ariannu a sefydlu gwreiddiol aelodaeth ar y Bwrdd mwyach, gan fod y Cyfarwyddwyr yn cael eu hethol gan aelodau yn y Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol.

Cenhadaeth y Cyfarwyddwyr yw “meithrin adfywio cymunedol cynaliadwy ym Mro Ddyfi”. Mae hynny’n cynnwys cryfhau’r economi leol drwy ddatblygu amaeth a thwristiaeth gynaliadwy, amlygu nodweddion hynod y fro a dygymod â materion yn ymwneud â globaleiddio - fel y defnydd o adnoddau, creu gwastraff ac ail-adleoli.                        

Mae gweithgareddau ecodyfi wedi amrywio dros y blynyddoedd gan ddibynnu ar adnoddau, ond gyda’r sylw mwyaf cyson yn cael ei dalu i ynni adnewyddadwy a thwristiaeth gynaliadwy.

Mae prosiectau wedi cynnwys Tirwedd Dyfi (yn ymwneud â’r cyswllt rhwng yr iaith a’r diwylliant Cymraeg â’r tirlun a byd natur); gweithio gyda darparwyr twristiaeth ar arferion cynaliadwy, datblygu cynnyrch a chyd farchnata, yn ogystal â chefnogi creu Cwmni Ynni Adnewyddadwy Bro Ddyfi a phrosiectau ynni cymunedol eraill.  

      

Rhoddir rhan-ddaliadau blynyddol o ddau dyrbin gwynt y Cwmni i Gronfa Ynni Cymunedol Dyfi, sydd dan reolaeth ecodyfi, tuag at leihau allyriadau carbon yn yr ardal. Yn ogystal, mae hefyd yn gweithredu cynlluniau’n ymwneud â chadw’n iach yn yr awyr agored, lleihau ôl-troed ecolegol y fro, trafnidiaeth gyhoeddus, lleihau gwastraff, masnach deg a dysgu gydol oes...

Mae ecodyfi hefyd yn parhau i wneud cyfraniad hanfodol i hwyluso’r cydweithio ymarferol sydd ei angen i wneud y mwyaf o ardal Biosffer Dyfi, sef dynodiad datblygu cynaliadwy y corff rhyngwladol, UNESCO.

 

Tu hwnt i Fro Ddyfi mae cytundebau gyda’r Ymddiriedolaeth Arbed Ynni, Asiantaeth Ynni Hafren Gwy a Chymdeithas Ymddiriedolaethau Datblygu Cymru wedi’n galluogi i gefnogi cymunedau a busnesau gyda chynlluniau ynni adnewyddadwy ac effeithlonrwydd adnoddau.

Mae ecodyfi yn Gwmni Cyfyngedig dan Warant, gyda Bwrdd o 12 o Gyfarwyddwyr gwirfoddol ac un Cyfarwyddwr staff. Mae gan y cwmni hefyd gynllun aelodaeth gyda bron 200 o unigolion a 37 cymdeithas neu gorff yn perthyn iddo, gan gynnwys naw Cyngor Cymuned a Thref. 

bottom of page