top of page

Pwy ydym ni

Aelodau staff

Andy Rowland

Fel Rheolwr Gyfarwyddwr ecodyfi, mae Andy yn atebol i’r Bwrdd am bob agwedd ar ein gweithrediadau, gan gynnwys cyllid, cydymffurfiaeth, datblygu, cyfathrebu, rhwydweithio, cyflawni prosiectau a darparu gwasanaethau. Pan fydd prosiectau’n gofyn staff arbennig, mae Andy yn helpu’r Bwrdd i’w recriwtio ac yn eu rheoli. Treuliodd Andy 14 o flynyddoedd yng Nghanolfan y Dechnoleg Amgen mewn gwahanol rolau, gyda swyddi ym maes cadwraeth natur a datblygu cymunedol cyn hynny. Mae wedi bod yn Gynghorydd Cymuned, yn llywodraethwr ysgol ac yn glerc yn lleol. Mae ganddo dystysgrif ôl-raddedig mewn datblygu economaidd ar gyfer cymunedau gwledig ac mae’n ddwyieithog.

Chris Higgins

Fel rheolwr prosiect 'Tyfu Dyfi', prif gyfrifoldeb Chris yn ecodyfi yw sicrhau bod amserlenni'n cael eu hadrodd yn amserol a'u cyflwyno yn ôl yr amserlen.

Mae gan Chris raddau mewn Gwyddor yr Amgylchedd, Technoleg Gwybodaeth a Systemau Gwybodaeth Ddaearyddol; treuliodd 17 mlynedd yn gweithio ym Mhrifysgol Caeredin yn arwain prosiectau ymchwil geo-ofodol a ariennid gan yr Undeb Ewropeaidd yn bennaf. Ei nod yw defnyddio ei brofiad eang a'i set sgiliau amrywiol i helpu ecodyfi i wneud Dyffryn Dyfi yn lle ffyniannus, iach, gofalgar; yn enwog am fyw'n gynaliadwy.

Sian Davies

Sian Davies.JPG

Mae Sian yn Swyddog Rhagnodi Cymdeithasol Prosiect Trywydd Iach - sy'n cael ei redeg gan Ecodyfi a Coed Lleol mewn partneriaeth. Dechreuodd ei rôl ym mis Ionawr 2021, ac mae wedi arwain ar ochr Rhagnodi Cymdeithasol y prosiect, sy'n cynnwys gweithio gyda meddygfeydd a sefydliadau meddygon teulu lleol i gynnig gweithgareddau awyr agored am ddim i wella iechyd a lles pobl. Mae Sian yn angerddol am sicrhau bod arferion llesiant a mannau gwyrdd yn hygyrch i bawb, ac mae ganddi ddiddordeb yn y cysylltiad rhwng treulio amser ym myd natur a sut y gall roi hwb i'n hiechyd personol a phlanedol mewn sawl ffordd. Mae hi'n hyfforddwr Ioga cymwys, ac mae'n mwynhau ymarfer symud corfforol yn yr awyr agored mewn amrywiol dirweddau, ac mae ganddi hefyd drefn ddyddiol o fynd allan ym mhob tywydd am dro.

Mona Lewis

Mae Mona yn gweithio ar brosiect Trywydd Iach ac yn arwain ar opsiynau teithio’n iach. Mae hi’n mwynhau y rhyddid o seiclo yn yr awyr agored gan ei fod yn llesol i’w ffitrwydd a’i lles . Mae Mona yn aelod o’r Ramblers ac mae hi’n mwynhau darganfod llefydd newydd gyda chwmni da. Bu eu swyddi blaenorol yn y meysydd addysg a datblygu cymunedol.  Mae Mona yn gweithio ar ddydd Llun, Mawrth a bore Mercher.

Ebost: mona@ecodyfi.cymru

Freya Pryce

James Cass

Arfon Hughes

Arfon yw swyddog cyfathrebu Tyfu Dyfi. dechreuodd weithio i ecodyfi fel swyddog gweinyddol mis Rhagfyr 2019, ac fe fu'n gyfrifol am wneud gwaith cefnogi prosiectau ecodyfi a gwaith dydd i dydd.

Mae'n gyn Hwylusydd Tai Gwledig gyda chymdeithasau tai a chynghorau sir yng Ngogledd Orllewin Cymru ac wedi gweithio fel athro bro ym Mhowys ac fel Cydlynydd Menter iaith Maldwyn. 

Mae ganddo ddiddordeb mewn datblygu cymunedol gwledig, yr iaith Gymraeg, traddodiadau Cymru, cerddoriaeth gwerin a hanes Cymru. Mae hefyd yn hoffi cerdded a bod yn yr awyr agored. 

Aelodau bwrdd ecodyfi

Aelodau bwrdd ecodyfi, disgrifiad o ddiddordebau a phrofiad

Nicola Ruck, Cadeirydd

Machynlleth. Masnach deg, twristiaeth, iechyd, coetiroedd.

Nicola Ruck.jpg

Bu Nicola Ruck yn gweithio am 35 mlynedd ym maes rheoli a dysgu gwasanaethau iechyd ym Mhrydain ac yn rhyngwladol. Symudodd i Fachynlleth i ddod yn ôl at ei gwreiddiau teuluol. Helpodd Nicola i ennill statws Dyffryn Masnach Deg ar gyfer Bro Ddyfi, roedd ar y Grŵp Gweithredu ar gyfer ymgyrch Ysbyty Bronglais, ac roedd yn aelod o Gyngor Iechyd Cymuned Sir Drefaldwyn/Powys 2012-2022. Ar hyn o bryd mae’n gynrychiolydd cymunedol ar grŵp rhanddeiliaid Iechyd a Gofal Gwledig Cymru, ac yn ymwneud â phrosiect Trywydd Iach. Mae hi'n rheoli coetiroedd gorchudd di-dor ac mae ganddi fusnes gwyliau ecogyfeillgar.

Märit Olsson, Trysorydd ac Ysgrifennydd y Cwmni

Corris. Cyfrifeg, cefnogi cymunedau Affrica.

Märit sy’n rheoli’r cyllid i ecodyfi. Mae’n gweithio ym myd cyfrifeg ers dros 20 mlynedd gan arbenigo mewn sefydliadau dielw. Yn ei hamser rhydd, mae’n rheoli’r elusen Hazina sydd wedi'i leoli ym Machynlleth sy’n cefnogi gwaith yn Tanzania.

Iwan Pughe Jones

Glantwymyn  

Guy Pargeter

Taliesin. Cyfathrebu, coedwigaeth, y gyfraith.

John Cantor

Machynlleth. Ynni adnewyddadwy, pympiau gwres, atgyweirio ac ailddefnyddio, cymuned.

 

Martin Ashby

Eglwys-fach. Llyfrau, beiciau, technoleg briodol.

Ann MacGarry

Addysg ar gyfer datblygu cynaliadwy a dinasyddiaeth fyd-eang, pobl ifainc, cynaliadwyedd, datblygu tramor.

 

Andy Rowland

Derwenlas. Cymuned, technoleg briodol, cynaliadwyedd.

bottom of page