Sefydliad dwyieithog a reolir yn lleol sydd â’i gartref ym Machynlleth yw ecodyfi. Fe’n sefydlwyd ym 1998 ac rydym wrthi’n meithrin ac yn cefnogi economi a chymuned wyrddach ers hynny. Gan mwyaf rydym yn gweithio yn Nyffryn Dyfi ac ardal Biosffer Dyfi UNESCO ond hefyd mewn rhannau eraill o ganolbarth Cymru. Ein tri phrif faes arbenigedd yw ynni adnewyddadwy, twristiaeth gyfrifol a datblygu cymunedol. Defnyddir yr holl elw i gefnogi ein nodau gan nad oes gennym gyfranddalwyr.
NEWYDDION
Fforwm Blynyddol a CCB ecodyfi
Cynhaliwyd ar-lein nos Iau 30 Tachwedd 2023
Bu'r aelodau'n trafod bod ecodyfi yn cymryd rhan amlycach yn rheoli Biosffer Dyfi yn ogystal â symud ymlaen i arweinyddiaeth newydd.
Dogfennau isod
- Recordiad o'r cyfarfod
- Adolygiad Ecodyfi - crynodeb
Gweithredu Hinsawdd
Mae ecodyfi yn eich cefnogi i
gwella effeithlonrwydd ynni eich cartref,
benthyg camera thermol,
llogi efeic,
a chymryd rhan mewn gweithredu hinsawdd lleol eraill.
Cliciwch ar y linc yma i gael mwy o wybodaeth.